Elaine Owen

B.Sc (Hons) Psych., MBACP, MBPsS, Dip Counselling.

Cwnsela yng Nghanolbarth Cymru

Mae siarad am eich problemau yn helpu – Rwy’n cynnig lle cyfrinachol, parchus, diogel ac anfeirniadol i chi ddod i drafod eich problem. Ar ben eich hun neu efo’ch partnar.

Rwy’n cynnig ymgynghoriad ffôn 10 munud yn rhad ac am ddim i weld os mai fi yw’r person gorau i’ch helpu chi.

Cwnsela Perthnasau

Rwyf wedi hyfforddi’n llawn fel Cwnselydd Perthnasau.

Mae perthnasau  yn rhan hanfodol o’n bywydau. Bydd ein sesiynau gyda’n gilydd yn rhoi cyfle i chi siarad yn agored am y berthynas mewn awyrgylch anfeirniadol, diduedd, cyfrinachol a pharchus.

Materion fel anawsterau cyfathrebu a drwgdeimladau, arddulliau ymlyniad, newidiadau mewn bywyd a cholled, byw gydach gilydd,  gwahanu ac ysgaru, a mwy. 

Darllen Cwestiynau

Oes gennych chi gwestiynau am fy ngwasanaethau a sut y gallaf eich helpu? Ewch i’r adran cwestiynau  ac os nad yw’r cwestiwn yna cysylltwch â ni

Am Elaine Owen

Fy null cwnsela, hyfforddiant a moeseg ac ychydig amdana i.

Cwestiynnau

Beth, Pryd, Ble a Sut

Costau

Galwad ffôn am 10 munud AM DDIM a costau wedyn…

Tystebau

Yn ystod ein sesiynau cwnsela,  fe ddysgais  i a fy mhartnar lawer am ein gilydd ac am sut roedd pethau wedi gweithygu rhwngddan ni ; mae gweithio ar ein perthynas wedi ein helpu i aros gyda’n gilydd”

Lyn, Aberystwyth

“Roedd y sesiynau skype yn golygu y gallem gysylltu gyda’r nos ar ôl i’r babi fynd i gysgu – yn ddiolchgar iawn am y rhwyddineb i allu cysylltu yn y ffordd hon, gan wneud bywyd yn haws i ni.

Ben & Christine, Caerdydd

Fe wnaeth y sesiynau cwnsela fy helpu trwy amser anodd iawn yn fy mywyd. Roedd fy mherthynas wedi torri i lawr ac roedd fy ngwaith yn dioddef, roedd yn anodd ymdopi â phopeth. Fe wnaeth y cwnsela fy helpu i ail ddarganfod fy “hunan” eto – diolch i chi ..”

Bethan, Porthmadog

Cysylltu

Gallwch cysylltu yn hawdd gyda ni, unai drwy Skype, ffon neu ebostio.

Skype: @elaineowen847

Gyrrwch Neges